1 Tost oydd ddwyn trais gynhwynawl
2 tlws on mysc taliesin mawl
3 Tristeaist nid trais diarw
4 Trwm oer val y xtrywy marw
7 [5] dros vyngran ledchwolan lif
8 trideigr am wr tra digrif
9 Grvffydd hvowdl i odlef
10 Gryc ddoyth myn y groc oydd ef
11 Oys dic am i osdecion
12 ysgwir mawl eos gwyr mon
13 llvniad pob dyall vnion
14 A llyfr kyvraith yr iaith iown
15 y gwyddor y rai gwiwddoyth
16 A ffynon kerdd a ffen koyth
17 Ai chweirgorn ddiorn dda
18 ai chyweirdant och wyrda
19 Pwy a gan ari lan lyfr
20 Prydydd golevddydd lywddyfr
21 Aml oi ben awengerdd
22 Primas ac vrddas y gerdd
23 Nichair son gair o gariad
24 Nichan neb gwn ochain nad
25 ir pan ayth alayth olvd
26 y dan vedd i dewi n vvd
27 Nichwardd vdvardd o advyd
28 Nibv ddigrivwch na byd
29 [6] Ni bv edn glan a ganai
30 Nid balch keilioc mwyalch mai
31 Ni chynydd mewn serch anoc
32 Ni chan nac eos na choc
33 Na bronvraith ddwbl iaith ddiblyc
34 Ni bydd gwedi Gruff' gryc
35 Na chywydd dolydd a dail
36 Na cherddi yniach irddail
37 Tost o chwedl gan vvn edlays
38 Roi n hor llawn vynor llan vays
39 gimin dior gem andeiryd
40 o gerdd ac a royd i gyd
41 Royd serchowgrwydd y gwyddor
42 ymewn kist y min y kor
45 O gerddi swllt agwrdd sal
46 Ni chaid vn gistiaid gysdal
47 O gerdd evraid gerddwriayth
48 doy rym i gyd yn derm gayth
49 llywiwr iowngamp llariangerdd
50 llyna gist yn llawn o gerdd
51 Och hayl grair dduw vchelgrist
52 Na bai a y gorai r gist
53 O charai ddyn wych eirian
54 gan dant glywed moliant glan
55 [7] gweddw i barnaf gerdd davawd
56 Ac weithiain gwan ydiwn gwawd
61 edn glwys i baradwyslef
62 ederyn oydd o dir nef
63 o nef i doyth goyth gethlydd
64 i brydv gwawd i bryd gwydd
65 Awenvardd awen winvayth
66 I nef gwiw oydd ef i ddayth
Dd' ab G'
Nodiadau
t.4 {trawyd gwawd nid rraid gwadu
tros vyd gwladeiddaf trais fu}
Ychwanegwyd gan Wiliam Llyn ar ymyl y ddalen.
3-4 Testun yn llaw Wiliam Llyn ar ben y testun cyntaf
sy'n anodd ei ddarllen.
9 Grvffydd hvowdl i odlef {wawdlef}
21 Aml {Parod} oi ben awengerdd
32 {hedydd} yn lle eos
t. 6 {[ ] eos ynos i ni
nac irddail yn y gerddi}
Ychwanegwyd ar ymyl y ddalen mewn llaw wahanol.
47+ {kist aderw xxkistiaid irad
a gudd gwalch ar gerd valch vad}
Nodir gan Wiliam Llyn i'w ychwangegu ar ôl
gerddwriayth ond tebyg mai ar ôl gayth a fwriedid.
56+ {ef aeth y brydyddiaeth deg
mal arwy[ ]st mul ywr osteg
gwawd graffaidd gwedi gruffudd
gwaethwaeth y bryd[ ]udd}